Bywyd Organig

Bywyd Organig

Rydym ni’n credu’n gryf bod yr hyn a fwytawn yn effeithio’n fawr iawn arnom, er gwell ac er gwaeth. Os bwytwn amrywiaeth o fwydydd iachus, byddwn yn teimlo’n iach ac yn fywiog! Rydym ni’n caru bwyd! Ond dim ond bwyd cartref, ffres, a dyna yr ydym wedi ymroi i’w gynnig i’r plant o’r diwrnod cyntaf.

Mae gennym gyfleusterau organig gwych sy’n rhoi amgylchedd diogel, sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli’r plant.

Rydym yn poeni am yr amgylchedd a’n heffaith ni arno, er mwyn ein plant. Rydym yn dysgu iddynt garu a gwarchod yr amgylchedd ac yn gwneud ein gorau i roi cychwyn iachus mewn bywyd iddynt. Mae ein prydau a’n byrbrydau bob amser yn ffres ac yn organig. Defnyddiwn stwff glanhau naturiol ac eco-gyfeillgar, clytiau biodiraddiadwy, a phethau ymolchi sy’n organig neu wedi’u gwneud o gynhwysion naturiol, diogel. Gwnaed y rhan fwyaf o’r teganau a’r dodrefn yn y feithrinfa o bren yn hytrach na phlastig, gan greu awyrgylch braf, ymlaciol i’r plant gael dysgu a datblygu.

Pam Organig?

Mae bwyd da yn creu iechyd da a meddwl da. Mae wir yn helpu plant i ddysgu, chwarae a mwynhau bywyd. Mae’r bwyd yn ein meithrinfa ni yn organig sy’n golygu ei fod:

  • Yn Iachach
    Mae bwydydd organig yn cynnwys mwy o fitamin C, mwynau, gwrthocsidyddion sy’n helpu i ymladd canser, a maethynnau llesol eraill fel calsiwm, magnesiwm, haearn a chromiwm gan nad oes cemegau yn y pridd.
  • Dim GM
    Nid yw cnydau a chynhwysion a addaswyd yn enetig (GM) yn cael eu caniatáu o dan safonau organig.
  • Gofal am Anifeiliaid
    Mae anifeiliaid sy’n cael eu ffermio’n organig yn gorfod cael eu cadw o dan amodau mwy naturiol a rhydd, gyda deiet mwy naturiol.
  • Safonau Uchel
    Mae bwyd organig yn dod o ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt ac mae’r safonau’n cael eu pennu gan Gyfraith Ewropeaidd. Gallwn warantu bod ein holl gynhwysion yn organig ac rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â Chod Ymarfer Cymdeithas y Pridd ar gyfer arlwyo organig.

 

Mae deunyddiau bob amser yn cael eu hailddefnyddio a/neu eu hailgylchu os oes modd. Mae stwff glanhau yn naturiol ac yn eco-gyfeillgar; mae clytiau yn fioddiraddadwy (wedi’u gwneud heb gannydd na chlorin); mae’r eli a’r past a roddwn yn organig neu wedi’u gwneud o gynhwysion naturiol, diogel. Rydym wedi ymchwilio ac rydym yn gweithredu ein polisïau plant-gyfeillgar ein hunain fel ‘Ychydig o Blastigion’ (ar gyfer offer a theganau’r plant), ‘Dim Microdonnau’ (ar gyfer bwyd y plant) a ‘Dim Wi-Fi’ (yn yr adeilad o gwbl). Mae ein holl bolisïau a gweithdrefnau wedi’u seilio ar ymroddiad cryf i wneud gwahaniaeth trwy ein gofal plant, ac rydym yn ymroi i ymchwilio iddynt, eu hadolygu a’u gwella’n barhaus.