Bywyd Organig

Bywyd Organig

Rydym ni’n credu’n gryf bod yr hyn a fwytawn yn effeithio’n fawr iawn arnom, er gwell ac er gwaeth. Os bwytwn amrywiaeth o fwydydd iachus, byddwn yn teimlo’n iach ac yn fywiog! Rydym ni’n caru bwyd! Ond dim ond bwyd cartref, ffres, a dyna yr ydym wedi ymroi i’w gynnig i’r plant o’r diwrnod cyntaf.

Mae gennym gyfleusterau organig gwych sy’n rhoi amgylchedd diogel, sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli’r plant.

Rydym yn poeni am yr amgylchedd a’n heffaith ni arno, er mwyn ein plant. Rydym yn dysgu iddynt garu a gwarchod yr amgylchedd ac yn gwneud ein gorau i roi cychwyn iachus mewn bywyd iddynt. Mae ein prydau a’n byrbrydau bob amser yn ffres ac yn. Defnyddiwn stwff glanhau naturiol ac eco-gyfeillgar, clytiau biodiraddiadwy, a phethau ymolchi sy’n organig neu wedi’u gwneud o gynhwysion naturiol, diogel. Gwnaed y rhan fwyaf o’r teganau a’r dodrefn yn y feithrinfa o bren yn hytrach na phlastig, gan greu awyrgylch braf, ymlaciol i’r plant gael dysgu a datblygu.