Ein Hathroniaeth

Ein Hathroniaeth

Mae addysg yn broses naturiol a gynhelir gan y plentyn ac nid yw'n cael ei chaffael trwy wrando ar eiriau, ond trwy brofiadau yn yr amgylchedd.

Dr Maria Montessori (1870-1952) a ddechreuodd y dull Montessori.  Roedd yn arloeswr ym maes addysg plentyn-ganolog ac fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn addysg wrth weithio gyda phlant ag anghenion arbennig.

Sylweddolodd bod ei dulliau a’i syniadau’n berthnasol i bob plentyn a symudodd ymlaen i sefydlu sawl ysgol lle bu’n defnyddio’r ystafell ddosbarth fel labordy i gadw golwg ar blant a chanfod ffyrdd o’u helpu i wireddu eu gwir botensial. Mae ei dull gwyddonol yn eithaf sylfaenol i athroniaeth Montessori ac mae dyluniad deunyddiau didactig Montessori yn dangos dealltwriaeth hynod o’r ffordd y mae plant yn dysgu.

Mae Montessori wedi dod yn fudiad byd-eang rhyfeddol gan roi cychwyn arbennig iawn mewn bywyd i genedlaethau o blant. Rydym ni ym Meithrinfa Ddydd y Jiráff Gwyrdd yn rhan o’r mudiad gwych hwn, ac rydym yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blant gan roi y rhodd orau oll iddynt, cariad at ddysgu.

Montessori

Yn ogystal â dilyn dull dysgu Montessori, rydym yn cyfuno ein gwybodaeth o Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar a gwaith damcaniaethwyr plentyndod eraill er mwyn sicrhau bod yr holl blant sydd yn ein gofal yn cael rhaglen ddysgu amrywiol a chytbwys.

Mae’r Dull Montessori yn rhoi rhyddid i blant ddewis a symud mewn amgylchedd arbennig, i ddilyn eu diddordebau eu hunain a mwynhau eu llwyddiannau eu hunain, mewn man lle mae urddas, parch ac annibyniaeth yn hollbwysig.

Un peth sy’n sylfaenol i’r dull Montessori yw’r gred mai’r blynyddoedd cynnar (hyd at chwech oed) yw’r cyfnod pryd y gall plant ddysgu fwyaf a phryd y mae ganddynt yr archwaeth fwyaf i ddysgu.  Mae’r hyn sy’n digwydd yn y blynyddoedd hollbwysig hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer eu dyfodol. Mae’r offer sydd wedi’u cynllunio’n arbennig yn allweddol i Athroniaeth Montessori.  Ceir offer dysgu penodol ar gyfer pob maes dysgu craidd, wedi’u creu i helpu’r plant i ddatblygu sgiliau corfforol, gwybyddol, ieithyddol a chymdeithasol hanfodol.

Lluniodd Montessori ddeunyddiau arbennig i helpu’r plentyn i ddidoli, cyfateb a graddio pethau. Bwriad y deunyddiau hyn yw helpu’r plentyn i ganolbwyntio ar elfen benodol e.e. mae rodiau pren yn dysgu syniadau am hyd, ac mae ciwbiau yn y tŵr pinc yn dysgu syniadau am faint. Un o’r pethau braf am ddull Montessori yw bod pethau naturiol yn cael eu defnyddio os oes modd yn lle pethau plastig a synthetig.

Darganfu Montessori bod strwythur yn bwysig i helpu plant i deimlo’n ddiogel. Seilir Montessori ar ddymuniad naturiol plentyn i ddysgu.  Mae gallu anferthol plant i ddysgu yn cael ei ysgogi wrth gael amgylchedd a deunyddiau ffafriol, o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol.

"Gwaith y plentyn yw creu'r person y bydd ef neu hi yn dod. Mae oedolion yn gweithio i berffeithio'r amgylchedd ond mae plant yn gweithio ac yn chwarae i berffeithio eu hunain."