Ein Tîm

Ein Tîm

Ceisiwn gyflogi’r goreuon. Mae pob aelod o’n tîm yn credu’n angerddol mewn cynnig gofal plant eithriadol. Maent yn hollol benderfynol o sicrhau bod y plant sydd yn ein gofal yn cael profiad gwych o ddysgu (gydag ambell gwtsh ar y ffordd).

Rydym yn buddsoddi o ddifri yn ein staff, gan eu cefnogi a’u hannog i ddysgu a thyfu trwy roi’r hyfforddiant diweddaraf a chyngor iddynt.

Mae gan ein holl staff gymwysterau llawn, llawer ohonynt â Diploma Blynyddoedd Cynnar, maent wedi’u gwirio gan y DBS ac maent i gyd yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Daw pawb ohonynt â’u personoliaeth a’u sgiliau unigryw i’r tîm ac rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i gael gweithwyr gofal plant a staff cymorth mor rhagorol i’n helpu i wireddu ein gweledigaeth.

 

"Mae'r sawl sy'n cyffwrdd â bywyd plentyn yn cyffwrdd â rhan fwyaf sensitif cyfanwaith sydd â'i wreiddiau yn y gorffennol pellaf ac sy’n dringo tua’r dyfodol"